
Ieithoedd Cynhenid,
Lleiafrifol a Llai eu Defnydd
Prif Weinyddiaeth – Cymru
Mae gan ardal Cyngor Prydain-Iwerddon gyfoeth o etifeddiaeth ieithyddol.
Mae’r holl aelodau yn awyddus i elwa ar y manteision a allai ddeillio o
amrywiaeth ieithyddol trwy gydweithredu, rhannu arferion gorau, dosbarthu
gwybodaeth a deunydd a dysgu o brofiadau’r naill neu’r llall mewn sawl
maes gwahanol.
Gwnaed Ieithoedd Cynhenid, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd yn faes gwaith
Cyngor Prydain-Iwerddon yn y gynhadledd yn Jersey yn 2002.
Cyfarfu Gweinidogion yn Galway yn Hydref 2006 i drafod cynnydd mewn tri
maes: trosglwyddo iaith o fewn y teulu, darpariaeth addysg oedolion, a
TGCh ar gyfer Ieithoedd Cynhenid, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd.
Communiqué
Cydnabyddir trosglwyddo iaith o fewn y teulu yn floc adeiladu hollbwysig
yn y broses o gynnal iaith. Cynhaliwyd gweithdy ar gyfer ymarferwyr a oedd
yn gweithio ym maes trosglwyddo iaith o fewn y teulu yn Hydref 2006.
Mae gwaith yn parhau yn y maes hwn i archwilio sawl elfen wahanol: modelau
o’r hyn sy’n gweithio o ran cynnal trosglwyddo iaith yn y teulu; sut y
gellid trosglwyddo modelau i sefyllfaoedd iaith eraill; a nodi bylchau
mewn gwybodaeth; a sut y gallai gweinyddiaethau CPI weithio gyda’i gilydd
i lenwi’r bylchau hynny.
Mae datblygiadau diweddar mewn TGCh yn hwyluso defnyddio ieithoedd
lleiafrifol a chodi eu statws. Sefydlwyd is-grŵp o arbenigwyr i sbarduno
gwaith pellach yn y maes hwn. Cynhelir seminar ar gyfer arbenigwyr sy'n
gweithio gyda TGCh a ieithoedd llai eu defnydd yng Nghaerdydd ym mis
Tachwedd 2007.
Trefnir gweithdy ar gyfer ymarferwyr hefyd ym mis Tachwedd 2007, i
archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithredu rhwng aelod-weinyddiaethau ym
maes addysg oedolion.
Bydd y weinyddiaeth yn canolbwyntio ar feysydd newydd fel rhan o’r rhaglen
waith gyfredol: cynllunio ac ystyriaethau ieithyddol ac ymchwil;
deddfwriaeth; a data ac arolygon o ddefnydd iaith.
Ieithoedd Cynhenid, Lleiafrifol a Llai eu Defnydd oedd ffocws Pumed
Cynhadledd Cyngor Prydain-Iwerddon a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis
Tachwedd 2003.
Communiqué
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn yr ieithoedd canlynol:
Gaelg /
Manaweg
Gaidhlig / Gaeleg yr Alban
An Ghaeilge/ Gwyddeleg
Guernesiais/Ffrangeg Guernsey
Jèrriais / Ffrangeg Jersey
Ulstèr-Scotch / Sgoteg Ulster
|